BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 1513 (Cy.117)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005
|
Wedi'u gwneud |
7 Mehefin 2005 | |
|
Yn dod i rym |
30 Rhagfyr 2005 | |
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN 1
CYFFREDINOL
RHAN 2
GORCHMYNION GWARCHEIDIAETH ARBENNIG - ADRODDIADAU
RHAN 3
GWASANAETHAU CYMORTH GWARCHEIDIAETH ARBENNIG
RHAN 4
DARPARIAETHAU AMRYWIOL O RAN GWARCHEIDIAETH ARBENNIG
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 14A(8)(b), 14F, 24(5)(za), 26(3C) a 104 o Ddeddf Plant 1989[1][2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
RHAN 1
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "asiantaethau cymorth mabwysiadu" yr ystyr a roddir i "adoption support agencies" yn Neddf Safonau Gofal 2000[3];
mae i "asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol" yr ystyr a roddir i "voluntary adoption agencies" yn adran 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
mae i "asiantaethau maethu annibynnol" yr ystyr a roddir i "independent fostering agencies" yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[4];
mae i "awdurdod addysg lleol" yr ystyr a roddir i "local education authority" yn Neddf Addysg 1996[5];
mae i "cwpl" yr ystyr a roddir i "couple" yn adran 144 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[6];
ystyr "darpar warcheidwad arbennig" ("prospective special guardian") yw person -
(a) sydd wedi hysbysu awdurdod lleol o dan adran 14A(7) o'r Ddeddf o fwriad i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn unol ag adran 14A(3) o'r Ddeddf; neu
(b) y mae llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf mewn perthynas ag ef;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant 1989;
ystyr "GGA" ("SGO") yw Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig;
ystyr "gwarcheidwad arbennig" ("special guardian") yw person a benodwyd yn warcheidwad arbennig o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig a wnaed yn unol ag adran 14A o'r Ddeddf;
ystyr "gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig" ("special guardianship support services") yw'r gwasanaethau hynny sy'n dod o fewn rheoliad 3(1) ac adran 14F(1)(a) o'r Ddeddf;
ystyr "person perthynol" ("related person") o ran plentyn perthnasol -
(a) yw perthynas i'r plentyn o fewn ystyr adran 105 i'r Ddeddf; a
(b) yw unrhyw berson arall y mae gan y plentyn berthynas ag ef y mae'n ymddangos i'r awdurdod lleol ei bod yn llesol i'r plentyn;
ystyr "plentyn perthnasol" ("relevant child") yw plentyn -
(a) y mae GGA mewn grym ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel "plentyn sy'n destun GGA");
(b) y mae person wedi hysbysu awdurdod lleol o dan adran 14A(7) o'r Ddeddf o fwriad i wneud cais am GGA yn unol ag adran 14A(3) o'r Ddeddf ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel "plentyn y bwriedir gwneud cais am GGA ar ei gyfer"); neu
(c) y mae llys wedi gofyn i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad ar ei gyfer yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel "plentyn y gofynnodd y llys am adroddiad ar ei gyfer"),
a dehonglir cyfeiriadau at "blant perthnasol" yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad -
(a) at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(b) at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
(c) mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
RHAN 2
GORCHMYNION GWARCHEIDIAETH ARBENNIG - ADRODDIADAU
Adroddiadau
2.
Mae'r materion a bennir yn yr Atodlen yn rhagnodedig at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf[7].
RHAN 3
GWASANAETHAU CYMORTH GWARCHEIDIAETH ARBENNIG
Darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
3.
- (1) At ddibenion adran 14F(1)(b) o'r Ddeddf[8], rhagnodir y gwasanaethau canlynol o ran gwarcheidiaeth arbennig -
(a) darparu cymorth ariannol o dan reoliad 4;
(b) gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant perthnasol, gwarcheidwaid arbennig, darpar warcheidwaid arbennig a rhieni plant perthnasol (neu grwpiau sy'n cynnwys unrhyw gyfuniad o'r unigolion hynny) i drafod materion sy'n ymwneud â gwarcheidiaeth arbennig;
(c) cymorth i blant perthnasol, eu rhieni a phersonau perthynol o ran trefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng y cyfryw blant ag unrhyw rai o'r canlynol -
(i) eu rhieni;
(ii) eu gwarcheidwaid neu eu gwarcheidwaid arbennig blaenorol;
(iii) personau perthynol;
(ch) gwasanaethau a ddarperir o ran anghenion therapiwtig plentyn perthnasol;
(d) cymorth at ddibenion sicrhau parhau'r berthynas rhwng plentyn perthnasol a gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig, gan gynnwys -
(i) hyfforddiant i'r person hwnnw i ddiwallu unrhyw anghenion arbennig gan y plentyn hwnnw; a
(ii) gofal seibiant;
(dd) os oes yna berygl y gall y berthynas rhwng plentyn a'i warcheidwad arbennig chwalu, cymorth er mwyn atal hynny rhag digwydd, gan gynnwys -
(i) cyfryngu; a
(ii) trefnu a chynnal cyfarfodydd rhwng personau o'r fath y maent yn ymddangos i'r awdurdod eu bod yn briodol er mwyn mynd i'r afael â'r anawsterau sy'n wynebu'r berthynas rhwng y plentyn a'i warcheidwad arbennig.
(2) Nid yw'r ffaith bod person y tu allan i ardal awdurdod lleol yn rhwystro gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig rhag cael eu darparu iddo yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhagnodir y canlynol at ddibenion adran 14F(9)(b) o'r Ddeddf -
(a) asiantaethau cymorth mabwysiadu;
(b) Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol;
(c) awdurdodau addysg lleol;
(ch) asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol; a
(d) asiantaethau maethu annibynnol.
Amgylchiadau pan ellir talu cymorth ariannol
4.
- (1) Gellir talu cymorth ariannol i warcheidwad arbennig neu i ddarpar warcheidwad arbennig dim ond yn yr achosion canlynol -
(a) pan fydd plentyn sy'n destun GGA yn byw gyda'i warcheidwad arbennig a bod yr awdurdod lleol yn ystyried bod cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwarcheidwad yn gallu parhau i edrych ar ôl y plentyn;
(b) pan fydd plentyn y gwneir cais am GGA ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer yn byw gyda darpar warcheidwad arbennig a bod yr awdurdod lleol yn ystyried -
(i) y byddai'n llesol i'r plentyn bod GGA yn cael ei wneud; a
(ii) bod cymorth ariannol yn angenrheidiol i sicrhau y gall y darpar warcheidwad arbennig barhau i edrych ar ôl y plentyn hyd nes bod y llys wedi penderfynu a fydd yn gwneud GGA;
(c) pan fydd yr awdurdod lleol yn ystyried -
(i) y byddai gwneud GGA, neu orchymyn am ddarpariaeth ariannol i blentyn neu er budd y plentyn, yn llesol i blentyn perthnasol; a
(ii) ei bod yn briodol i gyfrannu i warcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig neu dalu unrhyw gostau cyfreithiol iddynt, gan gynnwys ffioedd llys, sy'n gysylltiedig â gwneud cais am GGA neu orchymyn am ddarpariaeth ariannol; neu
(ch) pan fydd plentyn perthnasol yn byw gyda'i ddarpar warcheidwad arbennig neu warcheidwad arbennig a bod yr awdurdod lleol yn ystyried bod angen gofal arbennig ar y plentyn sy'n gofyn am fwy o wariant adnoddau nag a fyddai eu hangen fel arall oherwydd ei afiechyd, anabledd, anawsterau emosiynol neu ymddygiadol neu ganlyniadau camdriniaeth neu esgeulustod yn y gorffennol.
(2) Rhaid peidio â thalu cymorth ariannol o dan y rheoliad hwn oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei gwneud yn ofynnol i'r gwarcheidwad arbennig neu'r darpar warcheidwad arbennig ("y gwarcheidwad") ymgymryd â'r canlynol -
(a) hysbysu'r awdurdod lleol ar unwaith -
(i) os yw'r gwarcheidwad yn newid ei gyfeiriad;
(ii) os nad yw cartref y plentyn perthnasol bellach gyda'r gwarcheidwad;
(iii) os bydd y plentyn yn marw; neu
(iv) os oes newid yn amgylchiadau ariannol y gwarcheidwad, neu yn anghenion ariannol neu anghenion adnoddau'r plentyn perthnasol;
naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig, ar yr amod os rhoddir yr wybodaeth ar lafar rhaid ei chadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod; a
(b) darparu datganiad blynyddol i'r awdurdod (gan ddechrau o ddyddiad sydd i'w bennu gan yr awdurdod) o'i amgylchiadau ariannol ac anghenion ac adnoddau'r plentyn perthnasol.
Asesu anghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol, ar gais, gyflawni asesiad o anghenion y personau canlynol am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, sef -
(a) person sy'n dod o fewn adran 14F(3)(a) i (c) o'r Ddeddf;
(b) plentyn gwarcheidwad arbennig;
(c) plentyn y gwneir cais am GGA ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer;
(ch) plentyn (heblaw un sy'n dod o fewn (a) i (c) uchod) a enwir mewn adroddiad a lunir o dan adran 14A(8) o'r Ddeddf;
(d) darpar warcheidwad arbennig; ac
(dd) person perthynol ar yr amod, cyn i gais gael ei wneud am asesiad, bod trefniadau ar waith ar gyfer cyswllt rhwng y person a'r plentyn perthnasol,
ac, yn unol â hynny, rhagnodir y personau yn is-baragraffau (b) i (dd) at ddibenion adran 14F(3)(d) o'r Ddeddf.
(2) Ni fydd paragraff (1) uchod yn gymwys oni bai -
(a) bod y person sydd wedi gofyn am asesiad yn dod o fewn unrhyw rai o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1) ac y mae naill ai -
(i) yn byw yn ardal yr awdurdod lleol;
(ii) yn bwriadu byw yn yr ardal honno;
(iii) yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod hwnnw; neu
(iv) yn berson y gofynnodd y llys i'r awdurdod lleol baratoi adroddiad ar ei gyfer o dan adran 14A(9), neu'n blentyn y mae adroddiad o'r fath yn ymwneud ag ef neu a fyddai'n ymwneud ag ef; neu
(b) os daw'r person o fewn is-baragraff (dd) o baragraff (1), bod y plentyn perthnasol yn byw neu'n bwriadu byw yn ardal yr awdurdod neu'n derbyn gofal gan yr awdurdod hwnnw.
(3) Caniateir i asesiad o anghenion person ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud drwy gyfeirio yn unig at wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol -
(a) os yw'r person yr asesir ei anghenion wedi gofyn am wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol; neu
(b) os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gellir asesu anghenion y person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn ddigonol drwy gyfeirio yn unig at wasanaeth cymorth gwarcheidiaeth arbennig penodol.
Y weithdrefn asesu
6.
- (1) Wrth wneud asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, rhaid i awdurdod lleol -
(a) rhoi sylw i'r ystyriaethau a ganlyn, sef -
(i) anghenion y person sy'n cael ei asesu a sut y gellir eu diwallu;
(ii) anghenion y plentyn perthnasol ac aelodau teulu unrhyw warcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig, i'r graddau nad aed i'r afael â hwy o dan bennawd (i) uchod, a sut y gellir eu diwallu;
(iii) yr amgylchiadau a arweiniodd at wneud GGA o ran plentyn sy'n destun GGA;
(iv) unrhyw anghenion arbennig sydd gan blentyn sy'n destun GGA sy'n codi oherwydd -
(aa) bod y plentyn wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol;
(bb) bod y plentyn wedi preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain; neu
(cc) bod y gwarcheidwad arbennnig yn berthynas i'r plentyn; a
(v) os yw'r asesiad yn ymwneud â chymorth ariannol, gofynion rheoliad 7.
(b) cyfweld â'r person yr asesir ei anghenion ac, os yw'r person hwnnw yn blentyn sy'n destun GGA, y gwarcheidwad arbennig; ac
(c) os yw'n ymddangos i'r awdurdod y gallai bod angen darparu gwasanaethau i'r person yr asesir ei anghenion gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu awdurdod addysg lleol, ymgynghori â'r Bwrdd hwnnw, yr Ymddiriedolaeth honno neu'r awdurdod hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod asesiad o anghenion person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig -
(a) yn cael ei wneud gan, neu o dan oruchwyliaeth, unigolyn sydd â'r cymwysterau, profiad a sgiliau addas at y diben hwnnw; a
(b) llunio adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad.
Cymorth ariannol - swm
7.
- (1) Wrth benderfynu ar unrhyw gymorth ariannol rhaid i'r awdurdod lleol ystyried -
(a) yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'r gwarcheidwad arbennig neu'r darpar warcheidwad arbennig yn ôl y digwydd;
(b) y swm sy'n ofynnol gan y person a grybwyllwyd uchod o ran ei wariant a'i ymrwymiadau rhesymol (heb gynnwys gwariant mewn perthynas â'r plentyn perthnasol);
(c) anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn perthnasol;
(ch) gwariant angenrheidiol ar gostau cyfreithiol (i gynnwys ffioedd llys) o ran rheithdrefnau sy'n ymwneud â gwarcheidiaeth arbennig neu gais am ddarpariaeth ariannol i'r plentyn perthnasol neu er ei les;
(d) gwariant angenrheidiol er mwyn hwyluso bod y plentyn perthnasol yn cael cartref gyda pherson sy'n dod o fewn is-baragraff (a) uchod, gan gynnwys unrhyw wariant dechreuol sy'n angenrheidiol at ddibenion lletya'r plentyn, i gynnwys unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol o ddodrefn a chyfarpar domestig, newidiadau i'r cartref neu addasiadau iddo, darparu cyfrwng cludo a dillad, teganau ac eitemau eraill sy'n angenrheidiol er mwyn edrych ar ôl y plentyn;
(dd) gwariant angenrheidiol y person sy'n dod o fewn is-baragraff (a) uchod sy'n gysylltiedig ag unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anawsterau ymddygiad arbennig y plentyn perthnasol, gan gynnwys -
(i) costau'r cyfarpar y mae ei angen at ddibenion diwallu unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd gan y plentyn;
(ii) costau trwsio unrhyw ddifrod yn y cartref lle mae'r plentyn yn byw, os yw'r costau hynny'n codi oherwydd anawsterau ymddygiad y plentyn;
(iii) costau rhoi plentyn mewn ysgol fyrddio, os yw'r lleoliad hwnnw'n angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol arbennig y plentyn; a
(iv) unrhyw gostau eraill i ddiwallu unrhyw anghenion arbennig gan y plentyn; ac
(e) gwariant ar deithio at ddibenion ymweld rhwng y plentyn perthnasol a'i riant neu bersonau perthynol.
(2) Rhaid peidio â thalu cymorth ariannol i fodloni unrhyw anghenion i'r graddau y gellir yn rhesymol fodloni'r anghenion hynny yn rhinwedd taliad unrhyw fudd-dâl (gan gynnwys credyd treth) neu lwfans.
(3) Ac eithrio pan fydd paragraff (4) yn gymwys, rhaid i'r cymorth ariannol beidio â chynnwys unrhyw elfen o gydnabyddiaeth ar gyfer gofal am blentyn perthnasol.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys -
(a) fel darpar warcheidwad arbennig, pan oedd person hefyd yn rhiant maeth plentyn perthnasol;
(b) os yw'r awdurdod lleol yn ystyried bod unrhyw lwfans maethu a delir i'r person hwnnw am faethu'r plentyn hwnnw yn dod i ben pan wneir y GGA; ac
(c) cyn i'r GGA gael ei wneud, pan fo'r awdurdod lleol yn penderfynu talu cymorth ariannol ac yn penderfynu y dylai hwnnw gael ei dalu'n rheolaidd.
Hysbysu'r asesiad
8.
- (1) Ar ôl gwneud asesiad o dan reoliad 6, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliad 10 -
(a) rhoi'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2); a
(b) rhoi hysbysiad o'r hawl i wneud sylwadau fel a bennir ym mharagraff (3).
(2) Dyma'r wybodaeth a bennir -
(a) barn yr awdurdod am y tro o ran anghenion person am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig;
(b) a ydyw'r awdurdod lleol yn cynnig darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i'r person;
(c) manylion y gwasanaethau, os oes rhai, y bwriedir eu darparu i'r person; ac
(ch) os yw'r asesiad yn ymwneud ag angen person am gymorth ariannol -
(i) ar ba sail y penderfynir ar y cymorth ariannol hwnnw;
(ii) y swm arfaethedig a fyddai'n daladwy; a
(iii) unrhyw amodau y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu eu gosod am ddarparu'r cymorth ariannol hwnnw yn unol â rheoliad 9(10).
(3) Bydd gan y person a hysbysir yn unol â pharagraff (1) yr hawl i wneud sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch y cynnig ym mharagraff (2)(b) o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol yn yr hysbysiad hwnnw.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â gwneud penderfyniad o dan reoliad 9 hyd nes -
Penderfynu o ran gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
9.
- (1) Rhaid i'r awdurdod lleol, gan roi sylw i'r asesiad, ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod a bennir o dan reoliad 8 -
(a) ystyried a oes anghenion gan y person a aseswyd am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig; a
(b) penderfynu a ddylid darparu'r gwasanaethau hynny i'r person.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (1), a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, yn unol â rheoliad 10.
(3) Pan fydd yr asesiad yn ymwneud â darparu gwybodaeth yn unig, ni fydd y gofyniad ym mharagraff (2) i roi hysbysiad yn gymwys pan na fydd yr awdurdod lleol yn ei hystyried yn briodol i roi hysbysiad.
(4) Bydd paragraffau (5) i (10) yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu y telir cymorth ariannol.
(5) Rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a hysbysu yn unol â rheoliad 10 -
(a) yn unol â rheoliad 7, y swm sydd i'w dalu;
(b) yr amodau, os oes rhai, sydd i'w gosod yn unol â pharagraff (10) wrth ddarparu neu ddefnyddio'r cymorth ariannol hwnnw;
(c) y dyddiad, os oes un, erbyn pryd y mae unrhyw amodau i'w bodloni;
(ch) canlyniadau peidio â bodloni unrhyw amodau;
(d) os yw'r cymorth ariannol i'w dalu yn daliad unigol, y dyddiad y mae'r taliad i'w wneud;
(dd) pan fydd y cymorth ariannol i'w dalu'n rhandaliadau neu'n rheolaidd -
(i) pa mor aml y bydd y taliad yn cael ei wneud;
(ii) y dyddiad pan delir y taliad cyntaf, a
(iii) y dyddiad, os oes un, pan ddaw'r talu i ben.
(6) Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (2) hefyd gynnwys gwybodaeth o ran -
(a) y dull penderfynu ar swm y cymorth ariannol;
(b) y trefniadau ar gyfer adolygu, amrywio neu derfynu'r cymorth ariannol; ac
(c) cyfrifoldebau'r awdurdod lleol o dan reoliad 12 a chyfrifoldebau'r person sy'n derbyn cymorth yn unol â rheoliad 4(2) a pharagraff (10).
(7) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), rhaid talu'r y cymorth ariannol fel taliad unigol.
(8) Caiff y person y telir y cymorth ariannol iddo a'r awdurdod lleol gytuno y telir y cymorth -
(a) mewn rhandaliadau; neu
(b) yn rheolaidd,
ar a than y dyddiadau hynny y caiff yr awdurdod lleol eu pennu.
(9) Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod y cymorth ariannol i ddiwallu unrhyw anghenion sy'n debygol o beri gwariant sy'n debygol o ddal i ddigwydd, caiff benderfynu y telir y cymorth ariannol -
(a) mewn rhandaliadau; neu
(b) yn rheolaidd,
ar a than y dyddiadau hynny y caiff yr awdurdod lleol eu pennu.
(10) Caiff yr awdurdod lleol osod yr amodau hynny y mae'n ystyried eu bod yn briodol wrth dalu cymorth ariannol, a chaiff gynnwys amodau -
(a) o ran yr amserlen y dylid defnyddio'r taliad a diben y taliad; a
(b) o ran cydymffurfio â materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(2).
Hysbysiadau
10.
- (1) Rhaid rhoi unrhyw wybodaeth y mae ei hangen, neu hysbysiad y mae ei angen, o dan reoliadau 8, 9 a 12, yn ysgrifenedig ac -
(a) os yw'r person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn oedolyn, i'r person hwnnw;
(b) os yw'r person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn blentyn a bod paragraff (2) yn gymwys -
(i) i'r plentyn; a
(ii) ac eithrio os yw'n ymddangos i'r awdurdod lleol ei bod yn amhriodol i wneud hynny, -
(aa) i'r gwarcheidwad arbennig neu'r darpar warcheidwad arbennig; neu
(bb) os nad oes gan y plentyn warcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig, i'r oedolyn mwyaf priodol ym marn yr awdurdod lleol;
(c) os yw'r person yr aseswyd ei anghenion am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn blentyn ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo, i'r person, os oes rhywun, y mae is-baragraff (b)(ii) uchod yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys -
(a) os ymddengys i'r awdurdod lleol fod y plentyn yn ddigon hen a'i fod yn deall digon iddi fod yn briodol rhoi'r hysbysiad hwnnw iddo; a
(b) os nad yw'n ymddangos i'r awdurdod lleol ei bod yn amhriodol rhoi hysbysiad o'r fath iddo.
Cynllun gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
11.
- (1) Yr amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 14F(6)(b) o'r Ddeddf yw bod yr awdurdod lleol yn penderfynu darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i berson fwy nag unwaith.
(2) Os yw'r awdurdod lleol o'r farn ei bod yn briodol, at ddibenion paratoi'r cynllun, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r canlynol -
(a) unrhyw berson sy'n dod o fewn rheoliad 10(1); a
(b) os yw'r person y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef yn byw yn ardal awdurdod lleol arall, yr awdurdod lleol hwnnw,
a rhaid i ymgynghori o'r fath gynnwys trafodaeth o ran pryd y dylid adolygu'r cynllun.
(3) Pan ymddengys i'r awdurdod lleol y gallai fod angen darparu gwasanaethau i'r person y bydd y cynllun yn ymwneud ag ef gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod lleol ymghynghori â'r Bwrdd hwnnw, yr Ymddiriedolaeth honno neu'r awdurdod hwnnw, er mwyn paratoi'r cynllun.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu copi o'r cynllun -
(a) yn unol â rheoliad 10;
(b) os yw paragraff 3 yn gymwys, i'r Bwrdd Iechyd Lleol, yr Ymddiriedolaeth neu'r awdurdod; ac
(c) oni bai bod yr awdurdod yn ystyried nad yw'n angenrheidiol, os yw'r person y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef yn byw yn ardal awdurdod lleol arall, i'r awdurdod lleol hwnnw.
Adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig
12.
- (1) Os bydd awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer person nad ydynt yn cynnwys cymorth ariannol, rhaid i'r awdurdod adolygu'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny -
(a) os daw i'w sylw unrhyw newid yn amgylchiadau'r person, gan gynnwys unrhyw newid yn ei gyfeiriad; a
(b) beth bynnag, o dro i dro.
(2) Pan fydd awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer person a'r gwasanaethau'n golygu, neu'n cynnwys, cymorth ariannol, rhaid iddo adolygu darpariaeth o'r gwasanaethau hynny -
(a) os daw unrhyw newid perthnasol i'w sylw yn amgylchiadau'r person gan gynnwys unrhyw newid yn ei gyfeiriad; a
(b) pan ddaw'r datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(b) i law.
(3) Mae rheoliadau 6 i 8 yn gymwys gydag unrhyw newidiadau angenrheidiol mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 5.
(4) Rhaid i'r awdurdod lleol, ar ôl rhoi sylw i'r adolygiad ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gafwyd o fewn y cyfnod a bennir o dan reoliad 8 -
(a) penderfynu a ddylid amrywio neu derfynu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig; a
(b) adolygu ac, os yw'n briodol, diwygio'r cynllun.
(5) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu amrywio neu derfynu'r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig, neu adolygu'r cynllun -
(a) rhaid iddo roi hysbysiad o'i benderfyniad yn unol â rheoliad 10, a rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad; a
(b) rhaid i baragraffau (3) i (10) o reoliad 9 fod yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (4) fel y maent yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (1) o reoliad 9.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodir yn unol â rheoliad 9(10), caiff awdurdod lleol -
(a) adolygu, atal, neu roi'r gorau i dalu'r cymorth ariannol; a
(b) ceisio adennill y cyfan neu ran o'r cymorth ariannol a dalodd.
(7) Os yr amod na chydymffurfiwyd ag ef yw'r un i ddarparu datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2), rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (6) hyd nes -
(a) ei fod wedi anfon at y person a ymrwymodd i'r cytundeb nodyn atgoffa ysgrifenedig o'r angen i ddarparu datganiad blynyddol; a
(b) bod 28 diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad hwnnw.
(8) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (6), ar ôl cymryd y camau a bennir ym mharagraff (7), y dylid atal talu'r cymorth ariannol, caiff ddod â'r ataliad i ben pan ddaw'r datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(b) i law.
(9) Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â thalu cymorth ariannol a bydd hynny'n effeithiol o'r dyddiad y daw'n ymwybodol bod yr amgylchiadau ym mharagraff (10) yn gymwys.
(10) Dyma'r amgylchiadau -
(a) mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig wedi peidio â bod yn effeithiol, neu wedi'i ddirymu; neu
(b) mae'r plentyn y darperir y gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar ei gyfer -
(i) heb fod â'i gartref bellach gyda gwarcheidwad arbennig neu ddarpar warcheidwad arbennig;
(ii) yn cael cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[9] neu lwfans ceisio gwaith dan Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995[10]; neu
(iii) wedi dechrau gweithio mewn cyflogaeth lawnamser.
RHAN 4
DARPARIAETHAU AMRYWIOL O RAN GWARCHEIDIAETH ARBENNIG
Awdurdod perthnasol at ddibenion adrannau 24(5)(za) o'r Ddeddf
13.
At ddibenion adran 24(5)(za) o'r Ddeddf (personau sy'n gymwys i gael cyngor a chymorth), yr awdurdod perthnasol yw'r awdurdod lleol diwethaf lle bu'r person yn derbyn gofal.
Swyddogaethau a bennir o dan adran 26(3C) o'r Ddeddf
14.
Mae'r swyddogaethau canlynol o dan adran 14F o'r Ddeddf yn rhai a bennir at ddibenion adran 26(3C) o'r Ddeddf (adolygu achosion ac ymholiadau i sylwadau - gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig) -
(a) cymorth ariannol;
(b) grwpiau cymorth y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1)(b);
(c) cymorth mewn perthynas â'r cyswllt y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1)(c);
(ch) gwasanaethau therapiwtig y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1)(ch); a
(d) cymorth at ddibenion sicrhau cynnal y berthynas y cyfeirir ati yn rheoliad 3(1)(d).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mehefin 2005
YR ATODLENRheoliad 2
Adroddiadau - materion a ragnodwyd at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf
1.
Rhagnodwyd y materion canlynol at ddibenion adran 14A(8)(b) o'r Ddeddf.
2.
O ran plentyn y gwneir cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig ar ei gyfer neu blentyn y mae'r llys wedi gofyn am adroddiad ar ei gyfer (y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon fel "y plentyn") -
(a) enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad cartref;
(b) cenedl a statws mewnfudo;
(c) disgrifiad corfforol;
(ch) anghenion datblygu, i gynnwys anghenion corfforol, addysgol ac emosiynol ac adroddiad ar iechyd y plentyn;
(d) cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol;
(dd) manylion unrhyw reithdrefnau llys sy'n ymwneud â chyfrifoldebau rhiant neu gynnal plentyn neu sy'n ymwneud â phreswylfa'r plentyn;
(e) i ba raddau y cafodd y plentyn gyswllt ag aelodau teulu'r plentyn;
(f) unrhyw leoliad gyda rhieni maeth neu unrhyw drefniadau gofal eraill sy'n ymwneud â'r plentyn;
(ff) addysg, i gynnwys unrhyw anghenion addysgol arbennig; ac
(g) dymuniadau a theimladau'r plentyn am warcheidiaeth arbennig.
3.
O ran teulu'r plentyn -
(a) enw, dyddiad a man geni a chyfeiriad cartref rhieni'r plentyn, ei frodyr a chwiorydd ac unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn eu bod yn berthnasol;
(b) cenedl a statws mewnfudo rhieni'r plentyn;
(c) os yw rhiant y plentyn yn aelod o gwpl, asesiad o sefydlogrwydd y berthynas honno ac, os yw'r rhiant yn briod neu os yw wedi ymrwymo mewn partneriaeth sifil, dyddiad a lle'r briodas neu'r bartneriaeth sifil;
(ch) a oes gan dad y plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn;
(d) a ydyw'r awdurdod lleol yn ystyried bod y naill riant neu'r llall yn debygol o wneud cais am orchymyn o dan y Ddeddf o ran y plentyn;
(dd) disgrifiad corfforol o'r rhieni, y brodyr a'r chwiorydd ac unrhyw berson arall y mae'r awdurdod lleol o'r farn eu bod yn berthnasol;
(e) cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y rhieni;
(f) swyddi'r rhieni, yn y presennol a'r gorffennol, a'u cyrhaeddiad addysgol;
(ff) y trefniadau gofal o ran unrhyw frawd neu chwaer i'r plentyn nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
(g) barn y rhieni ynghylch y cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig o ran y plentyn; ac
(ng) y rheswm pam nad yw unrhyw ran o'r wybodaeth a ragnodwyd uchod yn y paragraff hwn ar gael.
4.
Mewn perthynas â'r darpar warcheidwad arbennig neu, pan fydd dau berson neu fwy yn ddarpar warcheidwaid arbennig ar y cyd, pob un ohonynt -
(a) enw, dyddiad a man geni a chyfeiriad cartref;
(b) cenedl a statws mewnfudo;
(c) y berthynas â'r plentyn;
(ch) disgrifiad corfforol;
(d) os yw darpar warcheidwad arbennig yn aelod o gwpl, asesiad o sefydlogrwydd y berthynas honno ac, os yw'r darpar warcheidwad arbennig yn briod neu wedi ymrwymo mewn partneriaeth sifil, dyddiad a lle'r briodas neu'r bartneriaeth sifil;
(dd) cred grefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y darpar warcheidwad arbennig a pharodrwydd y darpar warcheidwad arbennig i ddilyn dymuniadau'r plentyn neu riant y plentyn o ran magwraeth grefyddol neu ddiwylliannol y plentyn;
(e) swyddi, yn y presennol a'r gorffennol, a'r cyrhaeddiad addysgol;
(f) adroddiad ar iechyd y darpar warcheidwad arbennig;
(ff) manylion am gartref y darpar warcheidwad arbennig, i gynnwys manylion incwm, sylwadau ar safonau byw yr aelwyd ac unrhyw ffactorau teuluol ac amgylcheddol ehangach a all effeithio ar y gynneddf i fod yn rhiant o ran y darpar warcheidwad arbennig;
(g) profiad blaenorol o ofalu am blant;
(ng) unrhyw asesiad yn y gorffennol fel darpar fabwysiadwr, rhiant maeth neu warcheidwad arbennig;
(h) y rhesymau dros wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig;
(i) y gynneddf i fod yn rhiant, i gynnwys asesiad o allu'r darpar warcheidwad arbennig i feithrin y plentyn drwy gydol ei blentyndod;
(j) manylion tri chanolwr personol, nad oes mwy nag un ohonynt yn perthyn i'r darpar warcheidwad arbennig, gydag adroddiad o farn y canolwyr ar y darpar warcheidwad arbennig; ac
(l) manylion o'r trefniadau byw ar gyfer y plentyn, ac os bwriedir iddynt newid ar ôl i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud.
5.
Mewn perthynas â'r awdurdod lleol a luniodd yr adroddiad -
(a) enw a chyfeiriad;
(b) manylion os cafwyd unrhyw ran o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2 i 4 gan yr awdurdod lleol ar y dechrau heblaw at ddibenion paratoi'r adroddiad ac, os felly, at ba ddiben y'i cafwyd, a'r dyddiad y'i cafwyd;
(c) manylion o'r camau a gymerwyd i ddilysu pwy yw'r darpar warcheidwad arbennig;
(ch) manylion o unrhyw ymwneud gan yr awdurdod lleol yn y gorffennol â'r darpar warcheidwad arbennig, gan gynnwys unrhyw baratoi yn y gorffennol ar gyfer y person hwnnw i fod yn rhiant maeth neu'n rhiant mabwysiadol;
(d) manylion o unrhyw asesiad a wnaeth yr awdurdod lleol o ran y gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer y darpar warcheidwad arbennig, y plentyn neu riant y plentyn;
(dd) pan fydd adran 14A(7)(a) o'r Ddeddf yn gymwys a bod y darpar warcheidwad arbennig yn byw yn ardal awdurdod lleol arall, manylion ymholiadau'r awdurdod lleol gyda'r awdurdod lleol arall hwnnw am y darpar warcheidwad arbennig; ac
(e) manylion am farn yr awdurdod lleol o ran a fyddai'r darpar warcheidwad arbennig yn warcheidwad arbennig addas ai peidio i'r plentyn.
6.
O ran y casgliadau yn yr adroddiad -
(a) crynodeb wedi'i baratoi gan y proffesiynolyn meddygol a roddodd yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2(ch) a 4(f) uchod ar iechyd y plentyn a'r darpar warcheidwad arbennig;
(b) manylion am farn y person sy'n gwneud yr adroddiad ar y cannlynol -
(i) goblygiadau gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig i'r plentyn;
(ii) sut y gellir diwallu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn;
(iii) a fyddai gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig er lles gorau'r plentyn yn y tymor hir;
(iv) sut y gellir diwallu anghenion emosiynol, anghenion ymddygiad ac anghenion addysgol y plentyn;
(v) yr effaith ar rieni'r plentyn o wneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig; a
(vi) os yw'n briodol, rhinweddau gwneud gorchymyn lleoliad neu orchymyn mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[12] neu orchymyn preswylio o dan adran 8 o'r Ddeddf o ran y plentyn; ac
(c) manylion casgliadau ac argymhellion y person sy'n gwneud yr adroddiad ar y mater a ddylid gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig o ran y plentyn.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran gwarcheidiaeth arbennig. Mewnosodwyd darpariaethau ar gyfer gwarcheidiaeth arbennig yn Neddf Plant 1989 ("y Ddeddf") gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau'n rhagnodi'r materion y mae'n rhaid i awdurdod lleol ymdrin â hwy mewn adroddiad i'r llys a gafodd ei baratoi yn unol ag adran 14A(8) o'r Ddeddf pan fydd yr awdurdod yn cael hysbysiad o gais person am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig o dan adran 14A(3) neu (6) o'r Ddeddf neu os gofynnodd llys iddo gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad yn unol ag adran 14A(9) o'r Ddeddf.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig. Diffinnir gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig gan adran 14F(1) o'r Ddeddf fel cwnsela, cyngor a gwybodaeth a gwasanaethau eraill a ragnodir gan reoliadau, mewn perthynas â gwarcheidiaeth arbennig. Rhagnodir y gwasanaethau hynny yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 4 yn pennu'r amgylchiadau pan ganiateir talu gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ar ffurf cymorth ariannol.
Mae rheoliad 5 yn pennu'r personau sydd â hawl i gael asesiad o'u hanghenion ar gyfer gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig. Mae rheoliad 6 yn pennu'r weithdrefn ar gyfer asesiad ac mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer penderfynu swm y cymorth ariannol.
Ar ôl gwneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol roi hysbysiad o dan reoliad 8 o unrhyw wasanaethau cefnogi gwarcheidiaeth arbennig y mae'n bwriadu eu darparu ac am y cyfnod pan ganiateir gwneud sylwadau am y cynnig. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol benderfynu a oes unrhyw wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i gael eu darparu ac ar gyfer hysbysu'r penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi gwybodaeth a gwneud hysbysiadau.
Os yw gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig i'w darparu i berson, mae rheoliad 11 yn darparu i'r awdurdod lleol baratoi cynllun y mae'r gwasanaethau i'w darparu yn unol ag ef. Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu'r gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig ac ar gyfer adolygu'r cynllun.
Mae rheoliad 13 yn gweud darpariaeth mewn cysylltiad â chyngor a chymorth ar gyfer personau a oedd yn arfer bod yn destun gwarcheidiaeth arbennig ac mae rheoliad 14 yn gweud darpariaeth mewn cysylltiad â sylwadau (gan gynnwys cwynion) am wasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig.
Notes:
[1]
1989 p.41. Mewnosodwyd adrannau 14A a 14F o'r Ddeddf gan adran 115(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Mewnosodwyd adran 24(5)(za) o'r Ddeddf gan adran 139(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 60(c) o Atodlen 3 iddi. Mewnosodwyd Adran 26(3C) o'r Ddeddf gan adran 117(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43). Gweler adran 105(1) o'r Ddeddf i gael ystyr "prescribed".back
[2]
Rhoddwyd y pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cofnod o ran y Ddeddf yn yr Atodlen iddo yn darparu bod swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf yn arferadwy gan y Cynulliad o ran Cymru. Mae adran 145(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ac adran 197(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 yn darparu bod cyfeiriadau at y Ddeddf yn O.S. 1999/672 i'w trin fel cyfeiriadau ati fel y'i diwygiwyd gan Ddeddfau 2002 a 2003 yn eu trefn.back
[3]
2000 p.14.back
[4]
O.S. 2003/237.back
[5]
1996 p.56.back
[6]
2002 p.38.back
[7]
Mae adran 14A(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, ar ôl i hysbysiad ddod i law o dan adran 14A(7) o fwriad person i wneud cais am orchymyn gwarcheidiaeth arbennig, i ymchwilio'r mater a pharatoi adroddiad ar gyfer y llys. Mae adran 14A(9) hefyd yn caniatáu i'r llys ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal ymchwiliad a pharatoi adroddiad. Mae adran 14A(8)(b) yn darparu bod yn rhaid i'r adroddiad ymdrin â'r materion hynny a ragnodwyd.back
[8]
Mae adran 14F(1) o'r Ddeddf yn darparu: "Each local authority must make arrangements for the provision within their area of special guardianship support services, which means: (a) counselling, advice and information; and (b) such other services as are prescribed, in relation to special guardianship".back
[9]
1992 p.4.back
[10]
1995 p.18.back
[11]
1998 p.38.back
[12]
2002 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091149 0
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
14 June 2005
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051513w.html